P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, i derfynu’r Llwybr Arfordirol arfaethedig o gwmpas Cymru, yng Nghaerdydd.

Prif ddeisebydd: Roger Price

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 28 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 14

Gwybodaeth ategol:Credwn y byddai gosod y llwybr rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yn achosi aflonyddu gormodol a dinistriol ar y miloedd o adar gwyllt ar yr arfordir, sy’n hedfan i ffwrdd ar ddim (goddefgarwch o bobl, y Gylfinir: tua 400 llath, Pibydd y Mawn a’r Pibydd Coesgoch: tua 200 i 300 llath yn unig). Mae’r adar hyn yn dibynnu ar y llain tir cul a’r morfa heli hwn ger eu parth bwydo, i orffwys ac fel noddfa ddiogel.

Dynodwyd y lle fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig at ddibenion cadwraeth, ac mae’n rhan o Gynllun Rhyngwladol Pwysig i Adar,  Aber Afon Hafren. Bu’r safle hwn yn lloches am filoedd o flynyddoedd yn sicr, a chaiff ei fygwth yn aml.

Er bod nifer o ddewisiadau eraill ar gael i gerdded, nid oes dewis arall ar gael Ir cynefin arfordirol hwn.